Newyddion

ENGLISH

24 Rhagfyr 2021

Mae’n debyg y byddwch chi’n ymwybodol fod Prif Weinidog Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o fesurau newydd ddoe i helpu i reoli lledaeniad amrywiolyn newydd Omicron Covid 19 yng Nghymru. 

Daw’r mesurau hyn i rym o Ŵyl San Steffan ac maen nhw’n cynnwys cyfyngiad ar niferoedd sy’n mynychu unrhyw ddigwyddiad dan do, sef uchafswm o 30 o bobl. Yn amlwg, pe bai’r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith adeg Ffair Wanwyn Cymru, ni fyddai’n gyfreithlon i ni fwrw ymlaen â’r digwyddiad. Fodd bynnag, nod Llywodraeth Cymru yw mai dim ond am gyfnod byr y bydd angen i’r mesurau hyn fod ar waith. Ar hyn o bryd, rydym ni’n obeithiol y bydd modd i Ffair Wanwyn Cymru barhau yn ôl y bwriad.  Bydd y tîm yn parhau i fonitro rheoliadau presennol a’r bwriad yw adolygu cynlluniau yn unol â hynny yn y Flwyddyn Newydd.  Wrth gwrs, byddwn ni’n rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi wrth i ni ei chael.



29 Tachwedd 2021

Traders set for Venue Cymru in hope of post-pandemic boost.‘ Darllen mwy: https://www.northwalespioneer.co.uk/news/19722791.traders-set-venue-cymru-hope-post-pandemic-boost/

28 Ionawr 2021

Er ein bod ni’n gweithio tuag at ddyddiad newydd i Ffair Wanwyn Cymru 2021 ym mis Ebrill, mae pandemig Covid-19 yn parhau, a does dim canllaw amser clir o ran pa bryd y caiff digwyddiadau ailgychwyn, felly yn anffodus nid oes dewis ond canslo’r sioe am eleni.

Heb unrhyw ganllaw clir o ran y cyfyngiadau a allai fod yn eu lle erbyn mis Ebrill, ac o ystyried y lefelau heintio presennol ar draws y wlad, mae’n annhebygol y bydd arddangosfa/sioe fasnach yn gallu cael ei chynnal yn y misoedd nesaf fel y cynlluniwyd.

Felly, cynhelir y Ffair Wanwyn Cymru nesaf rhwng dydd Sul 23 a dydd Mawrth 25 Ionawr 2022. 

Wrth gwrs, rydym yn hynod siomedig a thrist na allwn gynnal y sioe yn 2021 ond rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl yn 2022.

2 Medi 2020

NEWID DYDDIAD FFAIR WANWYN CYMRU 2021


Mae Ffair Wanwyn Cymru, sy’n dathlu 42 mlynedd yn 2021, wedi sicrhau ei lle yn gadarn fel prif sioe cynnyrch cartref ac anrhegion Cymru, gan barhau i dyfu o nerth i nerth.

Yn 2020, newidiodd hyd y sioe i bara tridiau am y tro cyntaf, gan ystyried barn arddangoswyr, a sylweddoli bod amser allan o’r swyddfa yn werthfawr, yn enwedig yn yr amgylchedd masnachu presennol.

Bydd newid arall i’r sioe yn 2021, er mai newid dros dro fydd hwn. Oherwydd pandemig presennol Covid-19, bydd Ffair Wanwyn Cymru 2021 yn symud i fis Ebrill, o ddydd Sul 25 Ebrill i ddydd Mawrth 27 Ebrill 2021.