A oes gennych chi awydd Arddangos eleni?
Mae yna dros 500 o atyniadau i ymwelwyr a siopau anrhegion o fewn 20 milltir i Landudno. P’run ai ydych yn gyflenwr o Gymru gyda chynnyrch lleol i’w hyrwyddo, neu os ydych yn chwilio am gyfle i gamu i mewn i’r farchnad broffidiol hon, yna Ffair Wanwyn Cymru yw’r digwyddiad i chi. Bydd Ffair Wanwyn Cymru yn eich cyflwyno i brynwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn atyniadau i ymwelwyr, manwerthwyr annibynnol a lluosog, gwestai, orielau a llawer mwy!
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Dîm Ffair Wanwyn Cymru ar 01492 879771 neu anfonwch e-bost at ffairwanwyncymru@venuecymru.co.uk
Dyma’r prisiau ar gyfer stondin:- £115 fesul m2 am gynllun cragen a £95 fesul m2 am stondinau gofod yn unig.
Manylebau’r Stondinau
Mae Stondinau Cynllun Cragen yn cynnwys: Waliau stondin 2.4m o uchder mewn defnydd plastig Octanorm, Bwrdd Ffasgia, Bwrdd ar gyfer Enw’r Cwmni, cyflenwad pŵer 1 x 500w (fesul 6 metr sgwâr o stondin neu ran o hynny), stondin wedi’i charpedu a byrddau a chadeiriau (yn amodol ar archebu ymlaen llaw)
Mae Stondinau Gofod yn Unig yn cynnwys: Gofod stondin wedi’i garpedu, blaenoriaeth ar gyfer trefniadau llwytho a gosod. (Nid yw pŵer wedi’i gynnwys ym mhecyn Stondinau Gofod yn Unig)
Mae cyfraddau is ar gael ar gyfer:
- Rhai sy’n Arddangos am y Tro Cyntaf
- Arddangoswyr sy’n archebu mwy na 30 metr sgwâr o ofod stondin
Cysylltwch â Thîm Ffair Wanwyn Cymru i drafod y dewisiadau hyn.